Dechreuodd yr Archif ym mis Medi 2009, fel rhan o Brosiect Adfywio Treftadaeth Dinbych. Cafodd ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a Chyngor Tref Dinbych. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys hyfforddi tywyswyr, cyfres o ddarlithoedd ar Hanes Dinbych (fydd yn cael eu cyhoeddi mewn llyfr) a chodi tri phanel gwybodaeth ar y prif ffyrdd ar gyrion y dref.
Bwriad yr archif yw casglu a diogelu hanes Dinbych a’i phobl. ‘Rydym yn casglu delweddau cyfrifiadurol o luniau, dogfennau ac atgofion ynglŷn â Dinbych i’w dangos ar y we.
Yr ydym yn dibynnu ar eich cyfraniadau a fedrwch wneud hynny yn Llyfrgell y Dref neu trwy’r dudalen cysylltiad.
Diolch i Rory a thîm cwmni “Catalyst” am y cyfrifiaduron ac i Mike a thîm cwmni “Delwedd” am eu hamynedd a’i medrusrwydd yn adeiladu'r wefan.
|