Mae’r Cynllun Treftadaeth Drefol wedi adfer nifer o adeiladau lleol yn wych, ac y
mae nifer ohonynt ar agor i’r cyhoedd yn ystod ein penwythnosau treftadaeth. Ymhlith y rhain ceir hen farchnad ymenyn, tŷ brodorol Carmelaidd, Gwesty’r ‘Bull’, tŷ Tuduraidd Bron y Ffynnon, dwy eglwys, sef Santes Fair a Santes Marchell. Ceir hefyd capeli, megis Capel Mawr, Capel Pendref a Chapel Lôn Swan. Cofiwn y meddyg Dr Evan Pierce o’r 19eg ganrif ar golofn 50 troedfedd ac mewn gerddi coffa yn Stryd y Dyffryn.
Mae llyfrgell Dinbych yn cynnig cyfleusterau gwych mewn adeilad a oedd unwaith yn Neuadd y Sir ac sydd yn dyddio o’r 16eg ganrif . Heddiw ceir yno llyfrau a chyfrifiaduron lu, ac oriel ar gyfer arddangosfeydd celf sylweddol. Yng ngwanwyn 2005 yr oedd yr adeilad yn ganolbwynt ar gyfer prosiect newydd cymunedol tri mis BBC Cymru a sicrhaodd bod Dinbych a’u hardaloedd cyfagos yn derbyn sylw effeithiol iawn.