
“Wyt ti’n cofio......?”
Pa mor aml y gofynnir y cwestiwn yma pan fydd cyfeillion neu deulu yn ymgynnull; a pha mor aml na cheir ateb?
Mae’r archif yn cynnwys casgliad o luniau a phethau cofiadwy nad ydynt yn addas i’r archifau sirol neu wladol ond sydd yn bwysig i’r gymuned ac sydd, hwyrach, yn darparu arwyddion neu atebion. Mae’n gasgliad sy’n tyfu, a gallwch gyfrannu ato trwy’r wefan neu yn ystod un o’r sesiynau agored, lle ceir atgofion hir ac emosiynol.
Mwynhewch ymchwilio’r gist trysorau o atgofion cymuned Dinbych.
|